Dylech
- Barchu eraill sy’n defnyddio’r safle
- Cadw at y pwnc
- Cadw’ch sylwadau’n gryno
Ni ddylech
- Ddefnyddio iaith sarhaus, ymfflamychol neu gythruddol (mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, rhegi a sylwadau anweddus neu ddi-chwaeth)
- Torri’r gyfraith (mae hyn yn cynnwys enllib, esgusodi gweithgarwch anghyfreithlon a dirmyg llys)
- Defnyddio’r safle at ddibenion plaid wleidyddol (arian cyhoeddus sy’n talu am y safle, felly mae’n amhriodol ymwneud â gweithgarwch plaid wleidyddol)
- Postio gwybodaeth bersonol mewn sylwadau fel cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill sy’n berthnasol i chi neu unigolion eraill
- Dynwared neu honni eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
- Ceisio mewngofnodi drwy gyfrif defnyddiwr arall
- Hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad masnachol nad ydynt yn berthnasol i’r drafodaeth
- Gwneud sylwadau i fynd ati i hyrwyddo eich prosiectau, gwefannau neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, rhaid i chi gael caniatâd gan eich rhiant neu warcheidwaid cyn postio sylw.
Sut byddwn ni’n ymateb i’ch sylw
Os yw’ch sylw yn cadw at y pwnc, yn ychwanegu gwerth at y drafodaeth ac yn rhywbeth y gallwn ymateb iddo’n gyhoeddus, byddwn yn ymateb o 5 diwrnod gwaith.
Os ydych yn gofyn am wybodaeth neu fanylion sy’n ymwneud â sianel neu wasanaeth arall Awdurdod Cyllid Cymru, yna byddwn yn trosglwyddo eich sylw i’r tîm perthnasol.
Os ydych yn gwneud cwyn am Awdurdod Cyllid Cymru, yna byddwn yn trosglwyddo eich sylw i’r Uned Gwynion.