Neidio i'r prif gynnwy

Dylunio rhif cofrestru sy’n gweithio ar draws y sector

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Cofrestru Wedi'i Gwblhau
Eich rhif cofrestru yw 12345678

Cofrestrwyd ar 31 Hydref 2026

O dymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Pan fydd darparwr yn cofrestru, byddan nhw’n cael rhif 8 digid unigryw . Mae’r gwaith o ddylunio’r rhif hwnnw wedi bod yn fwy dyrys nag y byddai rhywun wedi ei ddisgwyl.

Darllenwch mwy

Dylunio cofrestriad llety ymwelwyr ar gyfer partneriaethau

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Rydym wedi bod yn edrych ar sut y bydd partneriaethau’n cofrestru eu llety i ymwelwyr gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). O hydref 2026 ymlaen, bydd rhaid i bawb sy’n cymryd archebion am lety dros nos yng Nghymru gofrestru gyda ni.

Ar gyfer y darn hwn o waith, roeddem am ganolbwyntio ar y daith o’r dechrau i’r diwedd. Roedd angen i ni wneud yn siŵr bod yr hyn rydym yn ei ddylunio’n bodloni anghenion defnyddwyr ac yn cofnodi’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan y polisi.

Darllenwch mwy

Cofrestriad llety ymwelwyr: Ar ddiwedd 2025

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Wrth i 2025 ddirwyn i ben, dyma fanteisio ar y cyfle i fyfyrio ar ein cynnydd hyd yma wrth adeiladu gwasanaeth cofrestriad llety ymwelwyr Cymru. Bydd y gwasanaeth hwn yn galluogi pawb sy’n darparu llety ymwelwyr yn Nghymru i gofrestru o hydref 2026 ymlaen, ac roedd eich mewnbwn chi yn hollbwysig wrth i ni ei ddylunio.

Darllenwch mwy

Cydweithio â’r sector twristiaeth – paratoi Cymru ar gyfer cofrestru llety ymwelwyr

Post gan Claire, Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Ers ymuno ag Awdurdod Cyllid Cymru tua 7 mis yn ôl, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos â chydweithwyr ac aelodau’r sector twristiaeth i helpu darparwyr llety i baratori ar gyfer newid sylweddol. O fis hydref 2026 ymlaen, yn unol â polisi Llywodraeth Cymru, bydd gofyn i unrhyw un sy’n cynnig llety dros nos yng Nghymru gofrestru gyda ACC.

Ein prif ffocws yw sicrhau bod darparwyr llety, cyrff twristiaeth ac awdurdodau lleol yn deall y newidiadau sydd ar y gorwel, ac yn ein helpu i lunio gwasanaeth cofrestru s’’n addas i bawb.

Darllenwch mwy

Cofrestriad llety ymwelwyr: Symud tuag at amgylchedd profi byw

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y pythefnos diwethaf, yn enwedig o ran adeiladu llwybrau newydd trwy’r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr. Rydyn ni bellach yn agos iawn at lansio amgylchedd allanol lle gall defnyddwyr brofi’r gwasanaeth.

O dymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag ACC.

Darllenwch mwy

Adeiladu’r ‘llwybr syml’ ar gyfer cofrestru llety ymwelwyr

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol o ran adeiladu’r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr. Rydyn ni bellach wedi cwblhau’r daith ‘llwybr syml’ o’r dechrau i’r diwedd. Am y tro cyntaf, gall defnyddiwr symud trwy’r gwasanaeth o’r dechrau i’r diwedd. Gallan nhw roi eu manylion, ychwanegu eu llety, cadarnhau’r wybodaeth a derbyn rhif cofrestru.

Darllenwch mwy

Cofrestriad llety ymwelwyr: Diweddariad Sbrint

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestriad Llety Ymwelwyr

Bob pythefnos, rydym yn rhannu’r hyn y mae ein tîm wedi bod yn gweithio arno. Rydym yn adeiladu’r gwasanaeth newydd i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag ACC.

Mae’r tîm yn gweithio mewn sbrintiau o bythefnos, lle rydym yn canolbwyntio ar gyflawni nod penodol. Mae’r dull hwn yn caniatáu i ni wella’r gwasanaeth drwy’r amser ac addasu ein cynlluniau’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth symud ymlaen.

Darllenwch mwy

Cofrestriad llety ymwelwyr: Diweddariad Sbrint

Postiad gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Sgrinlun o fanylion darparwr llety ymwelwyr o brototeip y gwasanaeth cofrestru

Bob pythefnos, byddwn yn rhannu’r hyn y mae ein tîm cofrestru llety ymwelwyr wedi bod yn gweithio arno wrth i ni adeiladu’r gwasanaeth newydd er mwyn i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru gydag ACC.

Mae’r tîm yn gweithio mewn sbrintiau o bythefnos, lle rydym yn canolbwyntio ar gyflawni nod penodol. Mae’r dull hwn yn caniatáu i ni wella’r gwasanaeth yn barhaus ac addasu ein cynlluniau’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth symud ymlaen.

Darllenwch mwy