Neidio i'r prif gynnwy

Ynghylch

Dyma flog Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), adran anweinidogol Llywodraeth Cymru. Rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau i bobl gofrestru, cyfrifo a thalu treth yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agored wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau, gan rannu ein datblygiadau, ein heriau a’r gwersi a ddysgwyd gennym ar hyd y ffordd. Trwy rannu ein gwaith mewn amser real, ein nod yw creu gwasanaethau sy’n bodloni anghenion pobl ledled Cymru yn well. 

Mae’r blog yma’n rhoi diweddariadau rheolaidd ar ein taith ac yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r sgwrs wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau. Tanysgrifiwch i’r blog, rhannwch ein postiadau ac os ydych chi am ymateb, dilynwch ein canllawiau ar sut i gyfrannu.

Cyfranwyr i’r blog 

Bydd postiadau blog yn cael eu hysgrifennu gan amryw o bobl sy’n gweithio ar draws gwahanol wasanaethau yn Awdurdod Cyllid Cymru. 

Ar adegau, byddwn yn cynnwys Blogiau Gwadd lle rydym yn gwahodd rhanddeiliaid, partneriaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth i rannu eu profiadau a’u syniadau. Eu barn eu hunain yw barn ein blogwyr gwadd ac nid yw’r rhain o reidrwydd yn adlewyrchu safbwyntiau neu bolisïau swyddogol Awdurdod Cyllid Cymru.