Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i brofi gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr newydd Cymru

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Rydym yn agosáu at agor cofrestru ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. O hydref 2026 ymlaen, bydd angen i unrhyw un sy’n codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Cyn i ni agor y cofrestru i bawb, rydym am wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn gweithio’n dda i bob darparwr. Dyna pam ein bod yn gwahodd grŵp bach o ddarparwyr i gymryd rhan mewn beta preifat – prawf cynnar o’r gwasanaeth go iawn.

Darllenwch mwy

Mwy na gwasanaeth digidol: paratoi ar gyfer cofrestru

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Mae adeiladu gwasanaeth newydd yn fwy na’r hyn a welwch chi ar y sgrin.

O dymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Ers lansio ACC yn 2018, ein dull ni bob amser yw helpu pobl i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf ac rydym yn cymhwyo’r un dull ar gyfer cofrestru. Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch er mwyn cwblhau’r broses yn syml, yn gywir ac yn hyderus.

Darllenwch mwy