Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru
Rydym yn agosáu at agor cofrestru ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. O hydref 2026 ymlaen, bydd angen i unrhyw un sy’n codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Cyn i ni agor y cofrestru i bawb, rydym am wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn gweithio’n dda i bob darparwr. Dyna pam ein bod yn gwahodd grŵp bach o ddarparwyr i gymryd rhan mewn beta preifat – prawf cynnar o’r gwasanaeth go iawn.
Beth yw beta preifat?
Mae beta preifat yn fersiwn gynnar o wasanaeth rydym yn ei brofi gyda defnyddwyr go iawn cyn iddo fod ar gael i bawb. Mae’n rhoi cyfle i ni ddod o hyd i broblemau a’u datrys cyn i gofrestru agor i’r holl ddarparwr yn hydref 2026.
Ym mis Mehefin, byddwn yn gweithio gyda thua 100 o ddarparwyr llety dros bythefnos. Bydd y cyfranogwyr yn defnyddio’r gwasanaeth go iawn ac yn cofrestru gan ddefnyddio manylion go iawn. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut mae’r gwasanaeth yn perfformio’n ymarferol ac i ddod o hyd i unrhyw beth sydd angen i ni ei wella.
Pam fod eich cyfranogiad chi’n bwysig
Rydym wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn dylunio, adeiladu a phrofi’r gwasanaeth hwn gyda mewnbwn gan dros 600 o ddarparwyr llety ledled Cymru. Rydym wedi gwneud newidiadau i’r gwasanaeth yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr, a phrofi’r gwasanaeth llawn o’r dechrau i’r diwedd gyda defnyddwyr go iawn yw’r cam pwysig nesaf.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth – gan wneud yn siŵr ei fod yn gweithio i chi a’r sector yn ehangach. Bydd eich adborth yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr hyn rydym yn ei newid a’i wella cyn i gofrestru agor i bawb.
Beth i’w ddisgwyl
Os byddwch yn cymryd rhan, byddwch yn:
- cwblhau eich cofrestriad ffug gan ddefnyddio’r gwasanaeth byw
- rhannu eich profiad gyda ni yn ystod ac ar ôl profi
- ein helpu ni i ganfod unrhyw beth sydd ddim yn gweithio yn ôl y disgwyl
Bydd y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg a byddwn wrth law drwy’r amser i’ch cefnogi. Byddwn hefyd yn cynnig ffyrdd eraill o gofrestru os ydych yn llai hyderus yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.
Bydd y beta preifat yn ffordd dda o brofi ein canllawiau, ein cefnogaeth gan y ddesg gymorth a phrosesau mewnol eraill, er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni ateb unrhyw gwestiynau sydd gan ddefnyddwyr.
Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r gwasanaeth yn dilyn y beta preifat, sy’n golygu efallai y bydd yn rhaid i chi gofrestru eto pan fydd y gwasanaeth yn agor yn hydref 2026. Byddwn yn cysylltu â phawb sy’n cymryd rhan i roi gwybod iddynt os yw hyn yn wir.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn chwilio am o leiaf 100 o ddarparwyr llety ymwelwyr o bob cwr o Gymru, sy’n cynrychioli amrywiaeth o fathau o lety – o wely a brecwast bach a thai gwyliau wedi’u dodrefnu i feysydd gwersylla, parciau carafannau a pharciau gwyliau mwy.
Os hoffech chi gymryd rhan, cwblhewch ein ffurflen fer a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â ni.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Byddwn yn:
- dadansoddi’r data er mwyn canfod ble mae defnyddwyr yn cael anhawster
- gofyn i gyfranogwyr gwblhau arolwg adborth byr
- cynnal cyfweliadau ffôn dilynol gyda sampl o ddarparwyr i drafod eu profiadau’n fwy manwl
- siarad â thimau ACC i ddarganfod beth oedd yn gweithio’n dda a ble gellir gwella
Gan ddefnyddio’r hyn y byddwn yn ei ddysgu, byddwn yn gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth ac yn parhau i brofi cyn i gofrestru agor. Byddwn yn rhannu’r ein canfyddiadau mewn post blog yn y dyfodol, fel rhan o’n hymrwymiad i weithio’n agored.
Cyfle i chi ddweud eich dweud
Hyd yn oed os na allwch chi gymryd rhan yn y beta, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni yn cofrestrucenedlaethol@acc.llyw.cymru neu cofrestrwch i dderbyn diweddariadau a chael gwybod pan fydd cofrestru’n agor.
Nodwch: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth.