Neidio i'r prif gynnwy

Adeiladu gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr Cymru: Tu ôl i’r llenni

Postiad gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Aelodau o dîm ACC yn Fforwm Rhanbarthol Croeso Cymru

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn creu gwasanaeth cofrestru ar-lein newydd ar gyfer pob darparwr llety ymwelwyr sy’n gweithredu yng Nghymru. Daeth y Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) (Cymru) yn gyfraith ym mis Medi 2025. O hydref 2026 ymlaen, bydd angen i unrhyw un sy’n codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru gofrestru gyda ni.

Read this page in English

Mae hon yn garreg filltir bwysig, ond i ni yn ACC dechreuodd y gwaith go iawn dro yn ôl. Rydym wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac yn darparu gwasanaeth sy’n syml, yn effeithiol ac yn gefnogol i’r sector.

Rydym yn rhannu ein cynnydd wrth i ni ddatblygu’r gwasanaeth am fod eich mewnbwn chi yn ein helpu ni i adeiladu rhywbeth sy’n gweithio i chi. Byddwn yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar y blog hwn er mwyn dangos i chi sut rydym yn datblygu ac yn gwella’r gwasanaeth, a sut mae eich adborth chi’n ein helpu i ddylunio gwasanaethau gwell er mwyn diwallu eich anghenion.

Beth rydym wedi ei wneud hyd yn hyn?

Gweithio gyda’n gilydd i ddylunio’r gwasanaeth

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag ystod eang o ddarparwyr llety o bob rhan o’r sector trwy gydol y broses hon. Ers mis Ionawr, rydym wedi derbyn adborth gan dros 600 o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru, gan gynnwys llety gwyliau hunanarlwyo, gwestai, gwersylloedd, parciau carafannau, safleoedd glampio, hosteli a mannau gwyliau.

Gyda’n gilydd rydym yn dylunio proses gofrestru ar-lein, rhwydd i’w defnyddio. Mae’r nod yn syml: ei gwneud mor hawdd â phosibl i gofrestru a chasglu’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnom yn unig.

Yr hyn rydym wedi’i ddarganfod o siarad â darparwyr llety yw bod y sector yn anhygoel o amrywiol. O lety gwely a brecwast teuluol bach i barciau gwyliau mawr, mae gan bawb wahanol anghenion. Gall perchnogaeth a rheolaeth fod yn gymhleth weithiau, ac mae eich adborth wedi ein helpu i ddeall anghenion gwahanol ddefnyddwyr. Bydd hyn yn ein helpu i ddylunio gwasanaeth sy’n gweithio i bawb, o gadwyni gwestai rhyngwladol i lety gwyliau gwledig, wedi’u dodrefnu, sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd.

Adeiladu a phrofi’r system

Rydym yn adeiladu’r gwasanaeth cofrestru ein hunain, sy’n golygu y gallwn ni wneud newidiadau’n gyflym ar sail yr hyn rydym yn ei ddysgu o siarad â chi. Mae gennym brototeipiau o’r gwasanaeth rydym wedi bod yn eu profi gyda’r sector ac rydym yn diweddaru ein dyluniadau’n gyson ar sail yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym.

Un her a wynebwyd gennym yn gynnar oedd tybio ein bod yn gwybod sut y byddai pobl yn disgrifio’u heiddo. Roedd ein dull cychwynnol yn wahanol iawn i’r hyn a weithiodd yn ymarferol, felly fe wnaethom newid ein ffordd o feddwl.

Dyma rai o’r newidiadau allweddol rydym wedi’u gwneud ar sail eich adborth:

  • Defnyddio iaith sy’n gyfarwydd i ddefnyddwyr, fel ‘Safleoedd teithiol’ am barciau carafannau
  • Symleiddio’r cwestiynau rydyn yn eu gofyn, a sut maen nhw’n cael eu cyflwyno
  • Cynnig mwy o opsiynau ar gyfer y mathau o lety er mwyn i chi allu categoreiddio eich llety’n gywir
  • Ei gwneud mor hawdd â phosibl i gofrestru mwy nag un eiddo
Sgrinlun yn dangos sut mae defnyddwyr yn dewis eu math o lety wrth gofrestru
Sgrinlun yn dangos sut mae defnyddwyr yn dewis eu math o lety wrth gofrestru

Gwrando a Dysgu

Rydym wedi mynychu digwyddiadau’r diwydiant fel fforymau twristiaeth rhanbarthol Croeso Cymru. Mae’r sgyrsiau hyn wedi ein helpu i ddeall y pwysau sydd ar ddarparwyr llety ymwelwyr ac wedi cryfhau ein dymuniad i ddylunio gwasanaeth syml sy’n diwallu eu hanghenion.

Rydym hefyd wedi cwrdd â chyrff masnach a llwyfannau archebu ar-lein er mwyn deall sut y gallai cofrestru effeithio arnyn nhw a sut y gallan nhw gefnogi eu haelodau a’u cwsmeriaid drwy’r broses gofrestru.

Beth Nesaf?

Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agored wrth i ni ddatblygu’r gwasanaeth. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn yr ydym gweithio arno, yr heriau rydym yn eu hwynebu, yr hyn rydym yn ei ddysgu a beth sy’n dod nesaf. 

Dweud eich dweud

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am yr hyn rydym wedi’i rannu hyd yn hyn ac rydym bob amser yn chwilio am bobl i brofi ein dyluniadau gyda nhw. Os hoffech chi rannu eich syniadau neu gymryd rhan mewn ymchwil, cysylltwch â ni ar cyfathrebuACC@acc.llyw.cymru.

Sylwer: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar y gweill a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth a’r hyn rydym yn ei ddysgu trwy brofi.

Gadael ymateb

Discover more from Blog Awdurdod Cyllid Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading