Postiad gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Bob pythefnos, byddwn yn rhannu’r hyn y mae ein tîm cofrestru llety ymwelwyr wedi bod yn gweithio arno wrth i ni adeiladu’r gwasanaeth newydd er mwyn i ddarparwyr llety ymwelwyr gofrestru gydag ACC.
Mae’r tîm yn gweithio mewn sbrintiau o bythefnos, lle rydym yn canolbwyntio ar gyflawni nod penodol. Mae’r dull hwn yn caniatáu i ni wella’r gwasanaeth yn barhaus ac addasu ein cynlluniau’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth symud ymlaen.
Mae’r diweddariadau hyn yn rhan o’n hymrwymiad i weithio’n gwbl agored. Rydym am eich ddweud wrthych am ein datblygiadau a dangos sut mae eich adborth yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth rydym yn ei adeiladu gyda’n gilydd.
Beth rydym wedi’i wneud
Mae ein rhestr bostio yn fyw
Rydym wedi bod yn datblygu rhestr bostio er mwyn i ddarparwyr llety ymwelwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am gofrestru llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr. Byddwn yn gallu rhoi diweddariadau wrth i ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi a phan fydd cofrestru’n agor.
Aeth y rhestr bostio at y Bwrdd Cynghori ar Newid (CAB) i’w chymeradwyo. Rwy’n falch o ddweud ei bod wedi pasio a bod y rhestr bostio wedi mynd yn fyw ar 22 Hydref 2025. Mae hyn wedi bod yn llawer o waith caled gan y tîm, ac mae’n golygu y gallwn ni nawr ganolbwyntio ar rannau eraill y gwasanaeth.
Cofrestrwch i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gofrestriad llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr.
Byddwn yn cynnal sesiwn gwersi a ddysgwyd ar y prosiect rhestr bostio, a byddwn yn ei rhannu gyda chi mewn diweddariad yn y dyfodol.
Adeiladu’r gwasanaeth
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei alw’n ‘lwybr hapus’ – sef taith syml un darparwr llety ymwelwyr i gofrestru un lleoliad. Mae hyn wedi rhoi ffocws i ni ac yn golygu ein bod ni wedi gallu blaenoriaethu’n hawdd.
Rydym wedi adeiladu sawl sgrin newydd yn ystod y sbrint hwn ac wedi creu’r gallu i ddefnyddwyr olygu tudalennau ar ôl iddyn nhw eu cwblhau.
Ymchwil defnyddwyr
Mae cynnwys eraill yn bwysig i ni. Fe wnaethom ni brofi sgriniau safleoedd gyda meysydd gwersylla, safleoedd glampio a gwyliau yn Gymraeg a Saesneg. Cawsom lawer o adborth gwerthfawr yr ydym nawr yn ei gasglu er mwyn ei gyflwyno yn ein sesiwn dangos a dweud nesaf. Y prif beth a ddysgwyd yw bod gennym ni waith sylweddol i’w wneud er mwyn gwneud y daith safleoedd yn symlach ac yn gliriach.
Dylunio cynnwys a rhyngweithiad
Mae dylunio cynnwys a rhyngweithiad wedi gweithio law yn llaw yn ystod y sbrint hwn, gan i ni ddylunio sgriniau gyda’i gilydd er mwyn creu darlun fwy cyflawn o daith y defnyddiwr.
Rydym hefyd wedi edrych ar y ‘llwybr hapus’ cyfan ac wedi gwneud newidiadau i ddyluniad y cynnwys er mwyn ei gwneud yn haws llywio ac yn fwy cyson yn gyffredinol.
Rydym wedi dylunio’r sgrin rheoli safleoedd, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr weld eu holl safleoedd mewn un man. Rydym yn gwybod mai dim ond 1 neu 2 safle fydd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr, ond bydd gan leiafrif sylweddol nifer o safleoedd.
Byddwn yn profi’r daith safleoedd gyda defnyddwyr yn y sbrintiau sydd i ddod a byddwn yn gwneud gwelliannau’n gyson wrth i ni gael mwy o adborth.

Sgrinlun o fanylion llety o brototeip y gwasanaeth cofrestru
Yr hyn fyddwn yn ei wneud nesaf
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y ‘llwybr hapus’. Mae gennym ychydig mwy o sgriniau i’w dylunio a’u hadeiladu cyn i ni fod yn hapus â hyn.
Rydym yn anelu at gael fersiwn prawf allanol y gwasanaeth (nid dim ond sgrinluniau) at ddefnyddwyr i’w profi yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddwn yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn ddiogel.
Dweud eich dweud
Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am yr hyn rydym wedi’i rannu. Os oes gennych adborth neu os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil, cysylltwch â ni ar cyfathrebuACC@acc.llyw.cymru.
Sylwer: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar y gweill a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth chi a’r hyn rydym yn ei ddysgu trwy brofi.
You must be logged in to post a comment.