Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithio â’r sector twristiaeth – paratoi Cymru ar gyfer cofrestru llety ymwelwyr

Post gan Claire, Pennaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Ers ymuno ag Awdurdod Cyllid Cymru tua 7 mis yn ôl, rwyf wedi bod yn gweithio’n agos â chydweithwyr ac aelodau’r sector twristiaeth i helpu darparwyr llety i baratori ar gyfer newid sylweddol. O fis hydref 2026 ymlaen, yn unol â polisi Llywodraeth Cymru, bydd gofyn i unrhyw un sy’n cynnig llety dros nos yng Nghymru gofrestru gyda ACC.

Ein prif ffocws yw sicrhau bod darparwyr llety, cyrff twristiaeth ac awdurdodau lleol yn deall y newidiadau sydd ar y gorwel, ac yn ein helpu i lunio gwasanaeth cofrestru s’’n addas i bawb.

Read this page in English

Siaradwr yn cyflwyno i gynulleidfa mewn ystafell gynadledda

Beth rydym wedi’i gyflawni hyd yma

Rydym wedi cynnal gweminarau a digwyddiadau yn Llandudno a Chaerdydd, gan weithio gyda phartneriaid i gyrraedd cymaint o ddarparwyr â phosibl. Mae’r sesiynau hyn wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwasanaeth cofrestru a’n cynlluniau i hysbysu’r sector am yr angen i gofrestru.

Mae’r sgyrsiau wedi bod yn onest ac weithiau’n heriol. Mae cwestiynau anodd am gofrestru, pryderon am amseru, a chwestiynau ymarferol, a’r effaith ar wahanol fathau o lety. Mae’r trafodaethau hyn yn hanfodol i ddylunio gwasanaeth gwell ac i ddeall y pwysau go iawn ar ddarparwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at ymweld â gwahanol rannau o Gymru yn 2026 a gallwch gofrestru i ymuno â ni yn un o’n gweminarau ym mis Mawrth 2026.

Cryfhau partneriaethau

Rydym wedi meithrin phartneriaethau agod gyda sefydliadau fel Croeso Cymru, Cymdeithas Broffesiynol yr Hunanarlwywyr (PASC), Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain (BHHPA), asiantaethau teithio ar-lein a’r Clwb Carafanau a Gwersylla. Mae’r rhain yn cynrychioli miloedd o fusnesau ac yn bartneriaid allweddol wrth gyrraedd y sector a chasglu adborth.

Diolch i Croeso Cymru am wahodd ni i gyflwyno mewn pedwar fforwm rhanbarthol, gan roi cyfle i drafod gyda dros 200 o rhanddeiliaid.

Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid i drafod yn agored sut rydym yn bwriadu gweithredu’r gwasanaeth cofretru. Mae’r adborth a dderbyniwn yn ein helpu i ragweld materion ac addasu ein dull gweithredu yn ôl yr angen.

Person yn sefyll ar bodiwm yn siarad â chynulleidfa mewn ystafell gynadledda

Gwersi allweddol

Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos pŵer cydweithredu a phwysigrwydd ymgysylltu parhaus. Rydym wedi dysgu bod y sector twristiaeth yng Nghymru yn amrywiol iawn, ac nad yw un dull yn addas i bawb. Trwy’r sgyrsiau hyn, rydym yn deal y gwahanol heriau sy’n wynebu darparwyr ac yn ceisio dylunio proses gofrestru sy’n gweithio i bawb. 

Mae’r sector wedi bod yn barod iawn i ymgysylltu, gan gymryd amser i fynychu sesiynau, profi’r system, a rhannu adborth gonest. Mae’r mewnbwn hwn yn siapio sut rydym yn adeiladu ac yn gwella’r gwasanaeth.

Beth nesaf

Byddwn yn parhau â’r sgyrsiau hyn drwy gydol 2026, gyda mwy o weminarau, digwyddiadau a chyfleoedd i gymryd rhan wrth i ni fireinio’r gwasanaeth cofrestru cyn hydref 2026.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau a chael eich gwybod pan fydd cofrestru’n agor. 

Gallwch hefyd gofrestru i ymuno â ni yn un o’n gweminarau ym mis Mawrth 2026.

Sylwer: Mae popeth a rennir yn waith ar y gweill ac yn debygol o newid wrth i ni ddatblygu’r gwasanaeth yn seiliedig ar adborth a phrofiad.

Discover more from Blog Awdurdod Cyllid Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading