Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y pythefnos diwethaf, yn enwedig o ran adeiladu llwybrau newydd trwy’r gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr. Rydyn ni bellach yn agos iawn at lansio amgylchedd allanol lle gall defnyddwyr brofi’r gwasanaeth.
O dymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag ACC.
Beth rydym wedi’i wneud
Llwybr cwmnïau
Fe wnaethom ni adeiladu’r llwybr i gwmnïau yn ei gyfan gwbl mewn un sbrint. Mae hyn yn golygu y gallai darparwyr llety ymwelwyr sy’n gweithredu fel cwmni bellach gwblhau’r daith o gofrestru eu llety o’r dechrau i’r diwedd. Fe gynhyrchodd y tîm nifer o sgriniau a swyddogaethau cefn y wefan er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.
Adeiladu amgylchedd profi diogel
Roeddem eisiau rhyddhau fersiwn profi derbynioldeb i’r cwsmer (UAT) o’r gwasanaeth i’r cyhoedd, er mwyn i ni allu cynnal gwaith ymchwil defnyddwyr mwy ystyrlon. Roedd ein prototeipiau cynnar braidd yn gyfyngedig. Nid oedden nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr roi gwybodaeth yn y blychau, ac felly ni allem gasglu’r wybodaeth fanwl yr oedd arnom ei hangen o sesiynau profi’r cam hwn.
Roeddem eisoes wedi adeiladu’r ‘llwybr syml’ ar gyfer cofrestru mewn cod, ac yn bwriadu defnyddio hwnnw ar gyfer y gwaith ymchwil. Fodd bynnag, am ei fod yn cael ei letya ar y seilwaith ACC presennol, byddai gwneud hynny wedi achosi risg diangen.
Er mwyn lliniaru hyn, rydyn ni wedi bod yn symud y fersiwn i seilwaith newydd lle nad oes data byw, gan sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer profi. Mae hwn bellach yn fyw, a byddwn yn cynnal ein sesiwn gyntaf yn yr amgylchedd UAT hwn yr wythnos nesaf. Mae’r gwaith yma wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl, ac wedi gofyn am gyfraniadau gan sawl person ar draws y tîm a thu hwnt.
Gwaith dylunio
Argaeledd llety
Fe wnaethom barhau i weithio ar y cwestiwn amlder, sy’n ceisio pennu am ba gyfran o’r flwyddyn y mae’r llety ar gael. Rydyn ni wedi cynnal sawl gweithdy ar hwn, ac wedi ceisio dewis cwestiwn a ddylai fod yn ddigon syml i’r mwyafrif o ddefnyddwyr.
Byddwn yn gofyn a yw darparwyr yn cynnig llety drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn credu bod y rhan fwyaf yn gwneud hynny. Os nad ydyn nhw, byddwn yn gofyn iddyn nhw ddewis o restr er mwyn ceisio pennu a yw eu cynnig yn un untro neu’n dymhorol.
Nifer mwyaf o bobl sy’n gallu aros
Fe wnaethom hefyd barhau i ddiwygio’r cwestiwn ynglŷn â’r mwyafswm pobl, er mwyn iddo fod mor syml â phosibl. Fe sylweddolom na fydd nifer penodol ar gyfer rhai mathau o lety, e.e. meysydd gwersylla. Felly, rydyn ni wedi penderfynu gofyn iddyn nhw am y nifer o leiniau, ac hefyd roi amcangyfrif y gallant gytuno neu anghytuno ag o fel rhan o’r cyfrifiad cyffredinol.
Prototeip Figma
Fe wnaethom ganfod a phrofi ffordd o greu fersiynau enghreifftiol o’r prototeip yn Figma, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr deipio yn y blychau ac sy’n dangos negeseuon gwall pan fo camgymeriad yn cael ei wneud.
Roedd hwn yn ddatblygiad sylweddol. Mae’n golygu y gallwn ddylunio ac ailadrodd prototeipiau’n gynt o lawer o’i gymharu â disgwyl am fersiynau wedi’u codio, sy’n ein galluogi i gynnal profion defnyddwyr a chaglu gwybodaeth yn gynt. Bydd y dull hwn yn ein helpu i brofi ac i wella’r gwasanaeth yn gyflymach.
Beth nesaf
Yn y sbrint nesaf byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu’r llwybr i elusennau, gan ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o adeiladu’r llwybr i gwmnïau ac yn ymgorffori gofynion newydd.
Byddwn hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr holl sgriniau’n cyd-fynd â’i gilydd yn ddi-dor, ac y gall un llif parhaus weithio ar gyfer y llwybr syml. Rydym yn ychwanegu Google Analytics ar gyfer y rhestr bostio er mwyn olrhain gweithgaredd, ac yn parhau i ddylunio’r sgriniau’r mangreoedd.
Cyfle i chi ddweud eich dweud
Bydden ni wrth ein bodd yn clywed eich barn am yr hyn rydyn ni wedi’i rannu hyd yn hyn. Rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl i brofi ein dyluniadau â nhw. Os hoffech chi rannu eich barn neu gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, cysylltwch â ni trwy anfon neges i wracommunications@wra.gov.wales.
Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr ardoll ymwelwyr.
Sylwer: Mae popeth rydyn ni’n ei rannu yn waith sydd ar ei ganol a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth chi a’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu trwy brofi.