Post gan Cath, Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr, Awdurdod Cyllid Cymru
Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn creu gwasanaeth cofrestru ar-lein newydd ar gyfer y rhai sy’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru. Yn y blog hwn, rydym yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r rownd ddiweddar o waith ymchwil a gynhaliwyd gyda defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg.
Profi yn y Gymraeg, nid dim ond cyfieithu
Pan ddechreuom ni ddylunio ein gwasanaeth cofrestru eleni, fe wnaethom osod nod syml i ni’n hunain: os ydym yn adeiladu gwasanaeth dwyieithog, rhaid i ni ei brofi’n ddwyieithog hefyd. Mae hyn yn fwy na dim ond cyfieithu cynnwys ar ôl i ni orffen ei adeiladu, mae’n golygu dangos y fersiwn Gymraeg i ddefnyddwyr Cymraeg a gofyn am adborth ganddyn nhw trwy gydol y broses ddylunio.
Yn ein rownd ddiweddaraf o waith ymchwil defnyddwyr, dyna’n union wnaethom ni. Fe wnaethom gwrdd â 3 defnyddiwr Cymraeg iaith gyntaf, gan ofyn iddyn nhw adolygu rhan allweddol o’r gwasanaeth Cymraeg, a gwahodd adborth ar yr iaith yr oeddem wedi’i defnyddio.
Roedd y defnyddwyr hynny yn ddarparwyr llety blaenllaw yn niwydiant twristiaeth Cymru. Buom yn siarad â’r Eisteddfod, yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, a chyda’r Urdd, sy’n cynnal Eisteddfod yr Urdd a safleoedd llety ieuenctid parhaol ledled Cymru. Fe wnaethom ei brofi gyda Phortmeirion hefyd, sy’n darparu amrywiaeth o lety ymwelwyr yn eu pentref eiconig yng Ngwynedd.
Pam gwneud hyn?
Ar bapur, roedd fersiwn Gymraeg y gwasanaeth yn edrych yn dda. Roedd y cyfieithiad wedi’i wirio. Roedd y geiriau’n gywir. Ond allen ni ddim fod yn siŵr ei fod yn iawn nes iddo gael ei brofi â defnyddwyr go iawn.
Trwy ei brofi ar siaradwyr Cymraeg, ein bwriad oedd:
- gwirio a oedd y cynnwys Cymraeg yn gwneud synnwyr i bobl yn ei gyd-destun
- deall pa mor naturiol neu “swyddogol” oedd y cywair
- sylwi ar unrhyw derminoleg nad oedd yn gweithio
- sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg fel iaith o’r radd flaenaf, nid fel
Rydym yn siarad llawer am ddylunio gwasanaethau sy’n gweithio i bawb. I ni, roedd hwn yn gyfle i roi’r egwyddor honno ar waith.
Realiti profi mewn iaith arall
Er mai dim ond 3 cyfranogwr oedd, roedd y sesiynau’n hynod o ddefnyddiol. Roedd fersiwn Gymraeg y gwasanaeth yn “gywir”, ond gallai fod yn well.
Buan iawn y gwnaethom ddysgu:
- nad oedd pobl yn uniaethu â rhai ymadroddion, er eu bod wedi’u cyfieithu “yn gywir”
- roedd rhai brawddegau’n rhy ffurfiol, gan wneud i’r gwasanaeth deimlo’n llai croesawgar
- roedd dewisiadau bychain o ran geirio yn cael effeithiau mawr ar sut roedd pobl yn deall y cwestiynau
- roedd geiriad ambell i beth yn gweithio’n dda i rai defnyddwyr, ac yn wael i ddefnyddwyr eraill
Fe wnaeth y profion ein hatgoffa y gallwch gyfieithu cynnwys “yn gywir”, ond fyddwch chi ond yn gwybod ei fod yn gweithio pam fydd siaradwyr Cymraeg yn ceisio’i ddefnyddio. Dyna pam fod profion yn hanfodol, a pham y dylid eu gwneud yn fuan er mwyn gallu gwneud newidiadau ymhell cyn i unrhyw beth fynd yn fyw.
Yr hyn rydym yn ei wneud nesaf
Rydym yn gwybod bod rhaid i ni gynnal profion Cymraeg eto – nid unwaith yn unig. Os ydym am i fersiwn ddwyieithog y gwasanaeth fod yn wirioneddol ddefnyddiol, yn hytrach na dim ond cydymffurfio, yna mae angen i ddefnyddwyr Cymraeg fod yn rhan o’n gwaith ymchwil parhaus. Mae angen amrywiaeth o siaradwyr Cymraeg arnom i brofi ein gwasanaeth gyda ni.
Mae hynny’n golygu:
- ymgorffori profion Cymraeg yn ein gwaith ymchwil drwy’r amser, nid dim ond ar y diwedd
- cydnabod bod cywair, eglurder ac iaith syml yr un mor bwysig yn Gymraeg
- cydnabod bod tafodieithoedd gwahanol ledled Cymru, ac efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i rai siaradwyr Cymraeg yn gweithio i eraill
- cofio fod dwyieithrwydd yn golygu cydraddoldeb, nid dim ond bod ar gael.
Rydym hefyd wedi gweld gwerth cynnwys siaradwyr Cymraeg yn gynharach yn y broses, nid dim ond yn ystod y camau adolygu. Mae’n cyflymu pethau, yn lleihau’r angen i ail-weithio pethau, ac yn diogelu ansawdd yr iaith.
Cymryd rhan mewn gwaith ymchwil ar ddefnyddwyr
Byddwn yn parhau i brofi ein taith ddwyieithog gyda defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg wrth i ni adeiladu mwy o’r gwasanaeth. Po fwyaf y byddwn yn ei brofi, y mwyaf hyderus y byddwn ni bod yr hyn rydyn ni’n ei adeiladu yn gweithio i bawb.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg i wirfoddoli i gymryd rhan yn ein gwaith ymchwil. Os hoffech chi helpu i brofi cynnwys neu deithiau defnyddwyr yn Gymraeg, neu os hoffech chi ddysgu mwy am sut rydym yn dylunio’n ddwyieithog, cysylltwch â ni: cofrestrucenedlaethol@acc.llyw.cymru.
Cofrestrwch i gael diweddariadau ac i gael gwybod pan fydd cofrestru’n agor.
Sylwer: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar ei ganol a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth chi a’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu trwy brofi.