Neidio i'r prif gynnwy

Dylunio rhif cofrestru sy’n gweithio ar draws y sector

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Cofrestru Wedi'i Gwblhau
Eich rhif cofrestru yw 12345678

Cofrestrwyd ar 31 Hydref 2026

O dymor yr hydref 2026 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Pan fydd darparwr yn cofrestru, byddan nhw’n cael rhif 8 digid unigryw . Mae’r gwaith o ddylunio’r rhif hwnnw wedi bod yn fwy dyrys nag y byddai rhywun wedi ei ddisgwyl.

Read this page in English

Pwysigrwydd y rhif cofrestru

Bydd y rhif cofrestru yn cael ei roi yn syth pan fyddwch yn cyflwyno’ch cofrestriad. Mae’n rhoi cadarnhad ar unwaith eich bod wedi gorffen y broses. Gall darparwyr llety ddangos y rhif cofrestru ar eu gwefan a’u llwyfannau archebu er mwyn dangos eu bod wedi’u cofrestru. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu gwirio bod llety wedi’i gofrestru trwy edrych ar gofrestr gyhoeddus o lety ymwelwyr.

Caiff y rhif hwn ei ddefnyddio ar draws y sector – gan gynnwys gan asiantaethau teithio ar-lein (OTA) fel Booking.com ac Airbnb – felly mae angen iddo fod yn unigryw, rhaid gallu ymddiried ynddo, a rhaid iddo fod yn hawdd i’w wirio.

Gweithio ar draws y llywodraeth a’r sector

Er mwyn gwneud hyn yn iawn, rydym wedi bod yn gweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill y llywodraeth er mwyn dod i ddeall sut mae rhifau cofrestru a thrwyddedu yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac i ddysgu beth allai achosi dryswch.

Buom yn siarad â:

  • yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), yn enwedig am y cynllun cofrestru newydd ar gyfer eiddo yn Lloegr
  • Croeso Cymru
  • Rhentu Doeth Cymru

Buom hefyd yn gwneud ein gwaith ymchwil ein hunain ar y rhifau cofrestru a’r cyfeirnodau eraill sy’n cael eu defnyddio mewn mannau eraill. Buom yn edrych ar eu fformatau, ble maen nhw’n cael eu harddangos, sut mae defnyddwyr yn eu defnyddio, a pham eu bod wedi’u cynllunio fel hyn. Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdy mewnol gyda chydweithwyr o’r adrannau polisi, cyflawni, dylunio a gweithrediadol er mwyn profi syniadau a chymharu dulliau.

Rhan allweddol o’r gwaith hwn oedd nodi ble allai defnyddwyr ddrysu rhwng un cynllun ag un arall, yn enwedig mewn achosion pan fo cynulleidfaoedd tebyg yn ymateb i nifer o ofynion ar draws gwahanol wasanaethau.

Ystyried deddfwriaeth a newid yn y dyfodol

Roedd hefyd angen i ni ystyried Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru), sy’n mynd trwy’r Senedd ar hyn o bryd. Mae’r bil hwn yn cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru. Er bod cofrestru a thrwyddedu’n wahanol, mae defnyddwyr yn gweld cysylltiadau agos rhyngddyn nhw. Rhaid sicrhau bod gwahaniaethau amlwg rhwng y rhifau sy’n gysylltiedig â’r ddau beth, nawr ac yn y dyfodol.

Mae dylunio rhywbeth sy’n gweithio heddiw ac na fydd yn achosi problemau wrth i ddeddfwriaeth newid wedi bod yn rhan fawr ganolog o’n meddwl.

Sicrhau ei fod yn gweithio’n fewnol

Nid mater sydd ond yn effeithio ar ddefnyddwyr allanol yw hwn. O fewn ACC, rydym eisoes yn defnyddio rhifau 12 digid unigryw ar gyfer gwasanaethau presennol, sef rhif cyfeirnod unigryw trafodiadau (CUT). Roedd cyflwyno rhif newydd yn golygu bod angen i sicrhau na fyddai’n gwrthdaro â fformatau presennol. Pan fydd rhywun yn cysylltu â ni, rhaid i staff ein desg gymorth allu gweld ar unwaith i ba wasanaeth mae rhif yn perthyn.

Y canlyniad hyd yma

Rydym wedi cytuno ar rif cofrestru 8 digid newydd. Mae’r rhif hwn yn llwyddo i gydbwyso’r canlynol:

  • gwahaniaeth amlwg rhyngddo a chynlluniau eraill
  • digon syml i ddefnyddwyr ei ddeall a’i rannu
  • hawdd i dimau mewnol a phartneriaid allanol ei adnabod a’i ddilysu

Bydd y rhif yn cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi ar unwaith pan fydd darparwyr llety yn cyflwyno eu cofrestriad, gan roi prawf i chi’n syth eu bod wedi cwblhau’r broses.

Beth nesaf

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgorffori’r rhif cofrestru hwn yn y gwasanaeth. Pan fyddwn wedi mynd yn fyw, byddwn yn dechrau gweithio gydag Asiantaethau Teithio Ar-lein i gefnogi gwiriadau dilysu o fewn eu systemau.

Yn debyg i sawl agwedd arall ar y gwasanaeth hwn, mae hon yn broses ailadroddol. Byddwn yn parhau i brofi, i ddysgu ac i fireinio.

Cyfle i chi ddweud eich dweud

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Os hoffech chi gynnig adborth neu gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, cysylltwch â ni trwy anfon neges i cofrestrucenedlaethol@acc.llyw.cymru.

Cofrestrwch i gael diweddariadau ac i gael gwybod pan fydd cofrestru’n agor. 

Sylwer: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar ei ganol a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth chi a’r hyn rydym yn ei ddysgu trwy brofi.

Discover more from Blog Awdurdod Cyllid Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading