Neidio i'r prif gynnwy

Ei gwneud hi’n haws dweud wrthym am eich llety

Post gan Cath, Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr, Awdurdod Cyllid Cymru

Sut ydych chi’n dylunio gwasanaeth cofrestru mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i reolwr gwestai, darparwr gwersylla a pherchennog llety gwyliau i gyd yr un pryd? Dyna oedd yr her y gwnaethom osod i’n hunain wrth ailgynllunio adran ‘ynglŷn â’r llety’ y gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr newydd.

Yr adran hon yw’r man lle mae darparwyr yn dweud wrthym beth yw enw eu math o lety, pa fath o lety maen nhw’n ei gynnig, faint o unedau sydd ganddyn nhw, a oes gan yr unedau hynny enwau, y nifer mwyaf o westeion y gallan nhw eu lletya, a phryd maen nhw ar gael ar gyfer eu harchebu.

Er mwyn sicrhau ein bod wedi gwneud hyn yn iawn, buom yn siarad â chymysgedd eang o ddarparwyr llety yng Nghymru, gan gynnwys gwesteiwyr hunanarlwyo, gweithredwyr meysydd pebyll a glampio, rheolwyr gwestai a hosteli, a threfnwyr gwyliau a digwyddiadau.

Darllenwch mwy

Cyflwyno tîm yr Ardoll Ymwelwyr

Neges gan Ry, Dylunydd Cynnwys, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

Efallai eich bod eisoes wedi darllen erthyglau ar flog ACC sy’n sôn am ein gwaith ar gofrestriad llety ymwelwyr. Ond byddwn hefyd yn darparu gwasanaeth arall i ddarparwyr llety ymwelwyr ffeilio a thalu eu Hardoll Ymwelwyr. Rydym yn barod i ddechrau rhannu sut rydym yn mynd ati i wneud hyn.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y bydd yn cyflwyno’r ardoll ar 1 Ebrill 2027. Mae’r ardoll yn dâl ychwanegol  ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, gan gynnwys gwestai, gwersylloedd a llety AirBnB. Bydd darparwyr llety yn talu’r ardoll i ACC.

Gall darparwyr llety yng Nghaerdydd ddarllen ein canllaw cyflym i wneud yn siŵr eu bod yn barod erbyn 28 Medi 2026.

Darllenwch mwy