
Neges gan Ry, Dylunydd Cynnwys, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Efallai eich bod eisoes wedi darllen erthyglau ar flog ACC sy’n sôn am ein gwaith ar gofrestriad llety ymwelwyr. Ond byddwn hefyd yn darparu gwasanaeth arall i ddarparwyr llety ymwelwyr ffeilio a thalu eu Hardoll Ymwelwyr. Rydym yn barod i ddechrau rhannu sut rydym yn mynd ati i wneud hyn.
Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y bydd yn cyflwyno’r ardoll ar 1 Ebrill 2027. Mae’r ardoll yn dâl ychwanegol ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, gan gynnwys gwestai, gwersylloedd a llety AirBnB. Bydd darparwyr llety yn talu’r ardoll i ACC.
Gall darparwyr llety yng Nghaerdydd ddarllen ein canllaw cyflym i wneud yn siŵr eu bod yn barod erbyn 28 Medi 2026.
Pwy ydym ni
Mae tîm Ardoll Ymwelwyr ACC yn grŵp amrywiol o bobl sydd i gyd â gwahanol broffesiynau, gan gynnwys:
- gwneuthurwyr deddfau a chynghorwyr polisi sy’n gwneud yn siŵr bod yr Ardoll Ymwelwyr yn bodloni ei holl reolau cyfreithiol ac anghenion polisi
- perchnogion cynnyrch a dadansoddwyr busnes sy’n sicrhau bod y gwasanaeth yn cyfateb i’r hyn a gynlluniwyd yn y polisi
- datblygwyr a phenseiri technoleg sy’n datrys problemau technegol ac yn sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth a bod manylion pobl yn ddiogel
- ymchwilwyr defnyddwyr a dylunwyr sy’n siarad â’r darparwyr llety ac yn trosi eu hanghenion yn wasanaeth y gall pawb ei ddefnyddio
Gyda’n gilydd, rydym yn creu gwasanaeth hawdd ei ddefnyddio ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru.
Yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud
Dechreuon ni baratoi ar gyfer casglu Ardoll Ymwelwyr ymhell cyn i Gaerdydd gyhoeddi eu bwriad i’w chyflwyno.
Daeth ein tîm craidd at ei gilydd yn 2025, pan ddechreuon ni feddwl sut i droi cynlluniau Trysorlys Cymru yn wasanaeth Ardoll Ymwelwyr llwyddiannus.
Ers hynny, rydym wedi gwneud y canlynol:
- dysgu beth mae darparwyr llety i ymwelwyr ei eisiau o’n gwasanaeth
- amlinellu’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud i gydymffurfio â’r gweithredoedd a’r rheoliadau cyfreithiol
- adeiladu amgylchedd diogel ar gyfer ein gwasanaeth digidol
- dylunio a phrofi’r sgriniau cyntaf a phrofiadau pobl o’r gwasanaeth

Beth nesaf
Byddwn yn postio diweddariadau misol yn trafod ein cynnydd.
Mis nesaf, byddwn yn trafod sut bu ein tîm ymchwil defnyddwyr yn dysgu am waith darparwyr llety ymwelwyr a’r hyn y mae arnyn nhw ei angen gan ein gwasanaeth.
Cyfle i chi ddweud eich dweud
Os ydych chi’n ddarparwr llety yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Cofrestrwch i gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr ar yr Ardoll Ymwelwyr a’n helpu i wella ein gwasanaeth.
Cofiwch: mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth.
You must be logged in to post a comment.