Neidio i'r prif gynnwy

Profi’r gwasanaeth cofrestru

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Fis Ebrill 2026, aeth ein gwasanaeth cofrestru llety ymwelwyr trwy Asesiad Gwasanaeth Digidol. Fe’i cynhaliwyd gan Wasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru (DPSW), a wiriodd sut rydym yn perfformio yn erbyn 12 pwynt Safon Gwasanaeth Digidol Cymru. Dyma wnaethom ei ddarganfod.

Read this page in English

Beth yw Asesiad Gwasanaeth Digidol?

Mae Asesiad Gwasanaeth Digidol yn adolygiad strwythuredig o wasanaeth digidol. Mae’n edrych ar ba mor dda y mae tîm yn deall anghenion ei ddefnyddwyr, sut mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio, ac a yw’n hygyrch, yn ddwyieithog ac yn gynaliadwy. Mae’r asesiad yn ddatblygiadol – mae’n ymwneud â dysgu a gwella, nid pasio neu fethu. Rhoddodd gyfle i ni arddangos ein gwaith a meddwl am ffyrdd i wella.

Beth aeth yn dda

Tynnodd y panel asesu sylw at sawl cryfder, gan gynnwys aeddfedrwydd y tîm a pha mor dda mae pawb yn cydweithio.

Roedden nhw’n falch iawn o weld bod ymchwil defnyddwyr wedi dod yn rhan annatod o waith y tîm ac nad yw wedi’i gyfyngu i un rôl neu broffesiwn yn unig. Trwy ymchwil defnyddwyr ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rydym wedi siarad â dros 600 o ddarparwyr llety ledled Cymru, o lety gwely a brecwast bach i barciau gwyliau mawr. Trwy ymgysylltu’n agored, bod yn dryloyw a gwrando ar adborth, rydym wedi gallu dylunio gwasanaeth sy’n adlewyrchu anghenion diwydiant amrywiol.

Nododd y panel hefyd ein dull cydgysylltiedig o ddylunio gwasanaethau, gan feddwl yn ofalus nid yn unig am y gwasanaeth ar-lein ond hefyd am lwybrau all-lein i’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol. Fe wnaethon nhw gydnabod ein bod yn ymwybodol o’r pwysau sydd eisoes yn wynebu’r sector, a’n bod wedi gweithio’n galed i feddwl am effaith ein penderfyniadau yn y byd go iawn a lleihau baich gweinyddol cofrestru.

Amlygwyd ein hymrwymiad i ‘weithio’n agored’ fel cryfder – yn enwedig drwy flogiau, gweminarau, adolygiadau sbrint ac ymgysylltu â chymunedau ymarfer ehangach.

Teimlai’r panel fod ein dulliau werth eu rhannu gyda sefydliadau eraill. Rydym yn falch o hynny ac yn awyddus i rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu, nid yn unig er mwyn gwella ein gwasanaeth ein hunain, ond i helpu timau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n wynebu heriau tebyg.

Dywedodd Jemima Monteith-Thomas, Pennaeth Cynnyrch, Cyflenwi a Safonau Gwasanaeth Digidol yng Ngwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, Llywodraeth Cymru:

“Un o’n nodau ar gyfer asesiadau gwasanaeth yw dod o hyd i arferion gorau ar draws Cymru a’u rhannu ac mae’r ffordd y mae’r tîm wedi mynd i’r afael â’r gwaith hwn wedi rhoi cyfle gwych i ni wneud hyn.

“Mae’r tîm yn gweithio yn y ffordd y mae Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru yn ei hamlinellu’n effeithiol iawn, ac mae ganddyn nhw gynllun clir ar gyfer canolbwyntio ar y meysydd lle maen nhw’n cydnabod y gellir gwneud gwelliannau.”

Lle mae angen i ni wella

Y prif faes i’w wella yw dylunio dwyieithog. Rydym yn dylunio’r gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg, ond rydym yn gwybod y gallwn fynd gam ymhellach. Mae’n bwysig nad ydym yn dylunio yn Saesneg ac yna’n cyfieithu i’r Gymraeg – mae angen i ni ddylunio yn y ddwy iaith o’r dechrau, fel bod siaradwyr Cymraeg yn cael yr un profiad â siaradwyr Saesneg. Rydym yn ystyried sut i ymgorffori gallu yn y Gymraeg yn y tîm a meithrin mwy o hyder ac arbenigedd yn y maes hwn.

Fe wnaeth y panel argymell hefyd ein bod yn ffurfioli ein dull o ymdrin â ‘llwybrau anhapus’ – y teithiau y mae defnyddwyr yn eu cymryd pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le neu pan fydd eu sefyllfa’n fwy cymhleth. Ac fe wnaethon nhw awgrymu ein bod ni’n gwneud profion mwy uniongyrchol gyda defnyddwyr sydd ag anghenion mynediad ychwanegol. Mae’r ddau yn flaenoriaethau.

Beth sy’n dod nesaf

Mae 12 pwynt Safon Gwasanaethau Digidol Cymru wedi dod yn fwy na dim ond fframwaith asesu i ni. Maen nhw’n helpu i lunio sgyrsiau, blaenoriaethau a phenderfyniadau ar draws y tîm ym mhob cam.

Byddwn yn defnyddio canfyddiadau’r asesiad i lywio ein blaenoriaethau wrth i ni symud tuag at agor y broses gofrestru ym mis Hydref 2026. Byddwn yn parhau i brofi a gwella, a chryfhau ein gallu dwyieithog, a sicrhau bod y gwasanaeth yn gweithio i bawb.

Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gallwn ni glywed mwy gan y tîm – nid dim ond gen i fel perchennog y gwasanaeth. Gwyliwch y gofod hwn.

Cofrestrwch i gael diweddariadau a’ch hysbysu pan fydd cofrestru’n agor.

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil, anfonwch e-bost atom yn cyfathrebuacc@acc.llyw.cymru.

Nodwch: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth.

Discover more from Blog Awdurdod Cyllid Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading