Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn a ddysgom am ddatblygu gwasanaethau wrth i ni greu rhestr bostio

Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn creu gwasanaeth cofrestru ar-lein newydd ar gyfer y rhai sy’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru. Yn y blog hwn, rydyn ni’n rhannu’r hyn a ddysgom wrth greu rhestr bostio i roi’r newyddion diweddaraf i bobl amdano.

Read this page in English

Dechrau’n fach

Ym mis Ionawr 2025, cawsom syniad syml: beth am greu rhestr bostio i rannu’r newyddion diweddaraf am gofrestru llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr.

Dyma ffordd berffaith o roi ein dull ar brawf cyn lansio’r gwasanaeth cofrestru llawn yn nhymor yr hydref 2026.

Byddai rhestr bostio yn ein helpu i:

  • rannu canllawiau, diweddariadau a dyddiadau cau cyn i gofrestru agor
  • creu prototeip bychan yn fewnol a’i ryddhau

Penderfynom ddechrau’r gwaith yn yr hacathon, pan heriais 2 dîm i greu prototeip a chynllun cyflawni a fyddai’n galluogi i ddefnyddwyr gofrestru i gael diweddariadau. Fe wnaeth y timau’n arbennig o dda, gan greu cynllun gwaith â bwriad eglur: os daw’r bil yn gyfraith, byddwn yn lansio’r rhestr bostio ar yr un pryd.

Fe ddigwyddodd hynny fis yn ôl. Dim ond nawr rydyn ni’n lansio’r rhestr bostio.

Y gwirionedd am ryddhau rhywbeth newydd

Fe ddysgom lawer wrth ryddhau ein cynnyrch bach ni i’r amgylchedd byw, ac roedd ambell i wers galed yn eu plith.

Bu’n rhaid i ni:

  • sefydlu prosesau o’r newydd
  • dysgu sut mae pethau wir yn gweithio ar draws gwahanol rannau o’r sefydliad
  • delio â chymorth, dibyniaethau, a chydweithrediad ar draws timau
  • ymdopi â’r datblygiadau annisgwyl a ddaw yn sgil gwneud rhywbeth newydd

Buan iawn y dysgom nad ydi’r pethau sy’n ymddangos yn syml wastad yn hawdd, yn enwedig pan nad oes tystiolaeth amlwg neu brofiad i’ch cefnogi.

Adnabod problemau’n gynnar

Dyma enghraifft o un o’r pethau a aeth o chwith, a hynny pan oeddem yn barod i lansio rhestr bostio. Roedden ni wedi cynnal yr holl brofion perthnasol, roedd y gwasanaeth yn gweithio fel y disgwyl, roedd data’n cael ei gadw yn y gronfa ddata, roedd negeseuon cadarnhau’n cael eu hanfon, ac roedd defnyddwyr yn gallu cofrestru’n ddiffwdan.

Roedd popeth yn edrych yn dda, felly penderfynom roi’r gwasanaeth yn fyw. Ar y cyfan, roedd yn edrych fel pe bai popeth yn gweithio’n dda. Fe gofrestrais gan ddefnyddio fy nghyfeiriad e-bost gwaith, heb unrhyw broblemau.

Yn hwyrach, fe rois gynnig ar gofrestru ar fy ffôn gan ddefnyddio fy nghyfeiriad personol, ond ces neges yn dweud bod gwall: allai’r system ddim cwblhau’r cofrestriad. Gofynnais i gydweithiwr roi cynnig arni, ond fe gawson nhw yr un broblem yn union. Roedd problem gyda sut roedd y firewall wedi’i osod. Roedd cyfyngiad ar y system i beidio â derbyn cyfeiriadau e-bost heblaw am rai o barthau penodol.

Rwy’n ofnadwy o falch ein bod wedi sylwi ar hyn cyn rhyddhau’r gwasanaeth i filoedd o ddefnyddwyr, neu cyn i ni ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth tyngedfennol. Dyma enghraifft berffaith o sut all pethau fynd o chwith hyd yn oed ar ôl cynnal profion trylwyr, ac mae hynny’n iawn. Allwn ni ddim gwybod os nad ydyn ni’n gwybod. Dyna pam fod profi, casglu adborth, ac ailadrodd yn hollbwysig wrth ddatgelu problemau a gwella’r cynnyrch.

Y gwersi ar gyfer y dyfodol

Erbyn hyn, mae gennym well dealltwriaeth o lawer o hyd a lled y gwaith o lansio’r gwasanaeth cofrestru llawn yn 2026.

Rydyn ni wedi gweld sut y gall llywodraethiant helpu, ac rydyn ni wedi gweld lle mae angen ystyriaeth ofalus i osgoi arafu. A thra byddwn ni’n sôn am weithio’n ystwyth (ac rydyn ni’n gwneud hynny, mewn nifer o ffyrdd), rydyn ni wedi sylweddoli bod rhyddhau pethau bychain yn aml yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud yn well.

Mae hynny bellach yn rhan o’n huchelgais: ymgorffori diwylliant cryfach o ryddhau, o ddysgu, ac o ailadrodd ar draws popeth a wnawn.

Beth nawr?

Gallwch bellach ychwanegu eich enw i’n rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gofrestru llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr. Cewch ddiweddariadau pan fydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi a negeseuon i ddweud pryd fydd cofrestru yn agor.

Dweud eich dweud

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn am yr hyn rydyn ni wedi’i rannu hyd yn hyn ac rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl i brofi ein dyluniadau gyda nhw. Os hoffech rannu eich barn neu gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, cysylltwch â ni trwy anfon neges i wracommunications@wra.gov.wales.

Sylwer: Mae popeth rydyn ni’n ei rannu yn waith sydd ar y gweill a gall newid wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth ar sail eich adborth chi a’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu trwy brofi.

Discover more from Blog Awdurdod Cyllid Cymru

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading