Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestriad Llety Ymwelwyr
Bob pythefnos, rydym yn rhannu’r hyn y mae ein tîm wedi bod yn gweithio arno. Rydym yn adeiladu’r gwasanaeth newydd i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag ACC.
Mae’r tîm yn gweithio mewn sbrintiau o bythefnos, lle rydym yn canolbwyntio ar gyflawni nod penodol. Mae’r dull hwn yn caniatáu i ni wella’r gwasanaeth drwy’r amser ac addasu ein cynlluniau’n seiliedig ar yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth symud ymlaen.
Mae’r diweddariadau hyn yn rhan o’n hymrwymiad i weithio’n gwbl agored. Rydym am ddweud wrthych chi am ein datblygiadau a dangos sut mae eich adborth chi yn ein helpu i greu’r gwasanaeth rydym yn ei adeiladu gyda’n gilydd.
Beth rydym wedi’i wneud
Adeiladu’r gwasanaeth
Fe wnaethom ychwanegu mwy o sgriniau i helpu darparwyr llety ymwelwyr ychwanegu manylion am eu llety. Rydym bron â gorffen adeiladu’r ‘llwybr hapus’. Mae hon yn daith o’r dechrau i’r diwedd i ddarparwr llety unigol gofnodi eu gwybodaeth a chofrestru eu holl lety. Rydym yn gwybod y bydd rhywfaint o hwn yn newid gan nad yw’r profiad defnyddiwr yn berffaith. Ond rydym wedi profi y gallwn ni ei wneud.
Rydym wedi dylunio ac ychwanegu sgriniau ‘gwirio manylion’ i ddefnyddwyr adolygu a diweddaru’r wybodaeth maen nhw wedi’i rhoi. Roedd yn bwysig adeiladu’r opsiwn i ddefnyddwyr adolygu a diweddaru eu gwybodaeth er mwyn cywiro unrhyw wallau.

Sgrînlun yn dangos y sgrin gynnydd o’r prototeip gwasanaeth cofrestru
Rydym wedi dylunio’r dudalen a fydd yn cael ei harddangos pan fydd cofrestru wedi’i gwblhau. Dyma dudalen olaf y daith ‘llwybr hapus’ sy’n dangos i’r defnyddiwr eu bod wedi cofrestru’n llwyddiannus.
Rhestr bostio
Aeth y rhestr bostio yn fyw. Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn hapus iawn. Ond nid dyna’r diwedd, gan y byddwn yn rhyddhau diweddariad arall yn y sbrint nesaf i drwsio rhai mân fygiau. Mae hyn yn arfer da ar gyfer pan fydd y gwasanaeth cofrestru’n mynd yn fyw.
Ymunwch â’r rhestr bostio i dderbyn diweddariadau ar gofrestru llety ymwelwyr a’r ardoll ymwelwyr.
Ymchwil defnyddwyr
Fe wnaethom ddadansoddi’r ymchwil defnyddwyr gyda darparwyr gwersylla, glampio a gwyliau a chwarae’r canfyddiadau yn ôl i staff ACC. Tynnodd yr ymchwil sylw at sawl man nad oedd yn gweithio’n dda i ddefnyddwyr. Bydd y tîm dylunio yn ystyried yr adborth ac yn gweithio dyluniadau a strwythurau newydd er mwyn gwella’r daith.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu dylunydd gwasanaeth newydd i’r tîm a fydd yn ein helpu i fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.
Heriau sy’n ein hwynebu
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y ‘llwybr hapus’. Gyda dim ond 1 dadansoddwr busnes am gyfnod, dydyn ni ddim wedi gallu adeiladu’r biblinell waith nesaf. O ganlyniad, rydym mewn cyfnod pontio byr er mwyn cael popeth yn barod.
Yn ystod y cam hwn, mae’r gwaith wedi dod yn fwy cymhleth ac mae angen manylebau mwy manwl ar y datblygwyr. Mae’n cymryd mwy o amser i greu tocynnau ond mae’n arwydd cadarnhaol ein bod yn symud ymlaen i feysydd mwy heriol y prosiect.
Mae digon o waith i’w wneud ac mae angen i ni ei drefnu, egluro ein blaenoriaethau a’n gofynion a neilltuo digon o amser er mwyn cyflawni’r gwaith cymhleth.
Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych. Cysylltwch â ni yn wracommunications@wra.gov.wales os oes gennych adborth. Byddem hefyd yn falch iawn petaeth yn cymryd rhan yn ein hymchwil.
Cofiwch: Mae popeth rydym yn ei rannu yn waith sydd ar ei ganol. Gall newid wrth i ni ddatblygu’r gwasanaeth. Byddwn yn gwneud newidiadau’n seiliedig ar eich adborth a’ch profi.
You must be logged in to post a comment.