
Post gan Gareth, Arweinydd Cofrestru, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)
Mae rhywbeth ychydig yn rhyfedd am lansio gwasanaeth llywodraeth am y tro cyntaf.
Ar ôl dwy flynedd o waith, efallai y byddech chi’n disgwyl i’r foment y mae’n mynd yn fyw o’r diwedd deimlo’n arwyddocaol. Efallai y dylai fod countdown, neu ffanffer, hyd yn oed ychydig o ddathlu.
Yn lle hynny, fe gliciodd rhywun fotwm. A dyna ni. Roedd fersiwn 1 o’r gwasanaeth Cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru yn fyw. Nawr mae gan ddarparwyr llety yng Nghymru tan 31 Mawrth 2027 i gofrestru gydag ACC.
Blynyddoedd o ddeddfwriaeth, polisi, dylunio, ymchwil defnyddwyr, datblygu a phrofi, nawr yn ddim ond ychydig o gliciau. Roedd e, os ydw i’n onest, yn ychydig o anticlimax. Ond oherwydd yr holl waith, efallai mai dyna’n union sut y dylai fod.
Darllenwch mwy





You must be logged in to post a comment.